Cyfle diwethaf i adar Cymru

01 Jul 2011 | No. 2011-24

Maer cyfrif mwyaf o adar ein cenedl yn d?ad i ben. Ers gaeaf 2007, mae llif o wirfoddolwyr wedi bod yn casglu cofnodion adar o Gymru I’r Ymddiriedolaeth Adarydda Prydeinig (BTO), ac mae'r ymchwil enfawr yma yn dod i ben ar ddiwedd mis Awst.

Dros y pedair blynedd diwethaf mae miloedd o wirfoddolwyr wedi bod allan hyd a lled Cymru yn cyfri adar a chymryd rhan mewn rhaglen fwyaf uchelgeisiol y BTO, yr Atlas Adar 2007 - 11, ond mae amser yn dod i ben ac mae tystiolaeth o fridio adar yng Nghymru dal eisio.

Yn awr mae'r Wennoliaid duon ar i amlycaf, hefo nifer o adar yn sgrechian i ddangos ei bod yn ôl. Pan fydd par hefo cywion, ychydig o amynedd sydd eisiau i weld nhw yn mynd i mewn i doeau drwy'r bondo, a hyn yw'r dystiolaeth mae'r BTO eisiau. Mae cofnodion o rywogaethau arbenigol fel y Troellwr Mawr ar Cyffylog sydd yn hoff o’n goedwigoedd yn dderbyniol, a fydd ymchwil ar lannau ein hafonydd a ffosydd am Glasydorlan, Bronwen dd?r, ar Siglen lwyd i’w groesawa.

Meddai Kelvin Jones, swyddog datblygu BTO Cymru, “Mae gan Gymru adar bridio arbennig iawn. Maen cadarnle i’r bran goesgoch, ac mae ein coedwigoedd derw hefo mwy o Gwybodeg Brith na unman yn Prydain, ond mae gan Gymru niferoedd da o adar cyffredin. Maer Aderyn To yn dirywio yn Lloegr, ond yma yn Nghymru mae ei niferoedd wedi dwblu dros y degawd diwethaf. Ond rydym fond yn gwybod hyn fod pobol yn dweud wrth y BTO, ac rydym eisiau pobol fynd allan rhwng nawr a diwedd Awst I ddweud wrthum am ryw adar bridio meant yn weld yng nghymru, o ganno Gaerdydd I gopa’r Wyddfa, I sicarhau fod y pictiwr llawn o’n ein hadar bridio erioed ger llaw."

Meddai hefyd “Fel mae'r dydd wedi ymestyn mae yn bosib mynd allan gyda’r nos, ac os fysa’ch yn targedi mannau lleol am ychydig o oriau, fysai yn bosib ychwanegu niferoedd adar yn eich ardal."

I gyflwyno cofnodion cysylltwch â www.birdatlas.net, neu cysylltwch â Kelvin Jones ar kelvin.jones [at] bto.org.

Nodiadau i olygwyr

1. Y BTO yw corf arweiniol yn y DU sydd yn ymchwilio adar. Mae dros dri deg mil o wylwyr adar yn cyfrannu i arolygon y BTO. Maent yn casglu gwybodaeth sydd yn rhoi sail i waith cadwraeth yn y Da. Mae gan y BTO dros 100 o staff yn i swyddfeydd yn Norfolk, Sterling ac ym Mangor, fydd yn dadansoddi ac yn cyhoeddi'r canlyniadau'r gwaeth maes. Mae gwaeth y BTO yn cael i ariannu gan y llywodraeth, diwydiant a chyrff cadwraeth. Ymwelwch â www.bto.org
 

Manylion Cysylltu

Ieuan Evans (Pennaeth aelodaeth)
Swyddfa: 01842 750050 (9am-5.30pm)
E-bost: membership [at] bto.org

Kelvin Jones (Swyddfa BTO Cymru)
Swyddfa: 07979713282 (9am - 5.30pm)
E-bost: kelvin.jones [at] bto.org

Mae’r lluniau ar gael i’w defnyddio hefo’r datganiad newyddion. Cysylltwch hefo images [at] bto.org ( )Cyfeirnod 2011-24

Mae gan y BTO linell ISDN ar gael i gyfweliadau radio. Cysylltwch â ni i archebu ystafell cyfweliad: 01842 750050


Related content